2014 Rhif 684 (Cy. 74)

aer glÂN, Cymru

Rheoliadau Ardaloedd Rheoli Mwg (Tanwyddau Awdurdodedig) (Cymru) 2014

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn dirymu ac yn disodli gyda diwygiadau Rheoliadau Ardaloedd Mwg (Tanwyddau Awdurdodedig) (Cymru) 2008 (O.S. 2008/3100 (Cy. 274)) (“Rheoliadau 2008”).

Mae’r Rheoliadau hyn yn pennu pob tanwydd sydd wedi’i awdurdodi i’w ddefnyddio mewn ardaloedd rheoli mwg yng Nghymru at ddibenion adran 20 o Ddeddf Aer Glân 1993 (“Deddf 1993”). Mae pob un o’r tanwyddau a restrwyd yn yr Atodlen i Rheoliadau 2008 (fel y’u diwygwyd) yn union cyn i’r Rheoliadau hyn ddod i rym yn parhau i fod yn danwydd awdurdodedig.   Mae un tanwydd ychwanegol  (y Zip 100% Natural Stove Log) wedi’i awdurdodi am y tro cyntaf.

Mae adran 20 o Ddeddf 1993 yn darparu ei bod yn drosedd gollwng mwg o simnai adeilad, neu simnai sy’n gwasanaethu ffwrnais boeler sefydlog neu beiriannau diwydiannol, pan fo’r simnai honno mewn ardal rheoli mwg. Er hynny, mae’n amddiffyniad os gellir profi mai drwy ddefnyddio tanwydd awdurdodedig yn unig yr achoswyd y gollyngiad honedig.

Yng Nghymru, ystyr tanwydd awdurdodedig yw tanwydd y datganwyd ei fod yn danwydd awdurdodedig drwy reoliadau a wnaed gan Weinidogion Cymru.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar wneud Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, paratowyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r buddiannau sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Mae copi ar gael gan Lywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.


2014 Rhif 684 (Cy. 74)

aer glÂN, Cymru

Rheoliadau Ardaloedd Rheoli Mwg (Tanwyddau Awdurdodedig) (Cymru) 2014

Gwnaed                               12 Mawrth 2014

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru       18 Mawrth 2014

Yn dod i rym                           11 Ebrill 2014

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd i’r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 20(6) o Ddeddf Aer Glân 1993([1]) ac a freiniwyd bellach yng Ngweinidogion Cymru([2]) i’r graddau y maent yn arferadwy o ran Cymru:

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.(1)(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Ardaloedd Rheoli Mwg (Tanwyddau Awdurdodedig) (Cymru) 2014 a deuant i rym ar 11 Ebrill 2014.

(2) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

Tanwyddau awdurdodedig at ddibenion Rhan III o Ddeddf Aer Glân 1993

2. Datgenir bod glo caled, glo lled-galed, trydan, nwy, gloeau stêm isel eu hanweddolrwydd a’r tanwyddau a ddisgrifir yn yr Atodlen yn danwyddau awdurdodedig at ddibenion Rhan III o Ddeddf Aer Glân 1993.

Dirymiadau

3. Dirymir y canlynol—

(a)     Rheoliadau Ardaloedd Rheoli Mwg (Tanwyddau Awdurdodedig) (Cymru) 2008([3]);

(b)     Rheoliadau Ardaloedd Rheoli Mwg (Tanwyddau Awdurdodedig) (Cymru) (Diwygio) 2009([4]);

(c)     Rheoliadau Ardaloedd Rheoli Mwg (Tanwyddau Awdurdodedig) (Cymru) (Diwygio) 2011([5]);

(d)     Rheoliadau Ardaloedd Rheoli Mwg (Tanwyddau Awdurdodedig) (Cymru) (Diwygio) 2013([6]).

 

 

Alun Davies

 

Y Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd, un o Weinidogion Cymru

 

12 Mawrth 2014

YR ATODLEN

Rheoliad 2

TANWYDDAU AWDURDODEDIG

1. Brics glo Aimcor Excel, a weithgynhyrchir gan Applied Industrial Materials UK Limited yn Newfield, County Durham, neu a weithgynhyrchir gan Oxbow Carbon & Minerals UK Limited yn Windsor House, Cornwall Road, Harrogate, North Yorkshire—

(a)     sydd wedi’u cyfansoddi o olosg petrolewm (sef rhyw 60 i 75% o'r cyfanswm pwysau), glo isel ei anweddolrwydd a golosg adweithiol (sef rhyw 20 i 25% o'r cyfanswm pwysau) a rhwymwr resin sy'n caledu pan fo'n oer (sef gweddill y pwysau);

(b)     a weithgynhyrchwyd o'r cyfansoddion hynny drwy broses sy'n cynnwys rholio-wasgu;

(c)     sy'n frics glo heb eu marcio ar siâp gobennydd, yn pwyso 73 gram ar gyfartaledd; a

(d)     nad yw’r sylffwr sydd ynddynt yn fwy na 2% o’r cyfanswm pwysau.

2. Brics glo Aimcor Pureheat, a weithgynhyrchir gan Applied Industrial Materials UK Limited yn Immingham, North East Lincolnshire, neu a weithgynhyrchir gan Oxbow Carbon & Minerals UK Limited yn Windsor House, Cornwall Road, Harrogate, North Yorkshire—

(a)     sydd wedi’u cyfansoddi o lo caled (sef rhyw 60% o'r cyfanswm pwysau), golosg petrolewm (sef rhyw 25% o'r cyfanswm pwysau) a rhwymwr (sef gweddill y pwysau);

(b)     a weithgynhyrchwyd o'r cyfansoddion hynny drwy broses sy'n cynnwys rholio-wasgu a thriniaeth wres ar ryw 250°C;

(c)     sy'n frics glo ar siâp gobennydd gydag un llinell wedi'i hindentio ar un ochr a dwy linell wedi'u hindentio ar yr ochr arall ac sy'n pwyso 75 gram ar gyfartaledd; a

(d)     nad yw’r sylffwr sydd ynddynt yn fwy na 2% o’r cyfanswm pwysau.

3. Brics glo Ancit, a weithgynhyrchir gan Coal Products Limited yn Immingham Briquetting Works, Immingham, North East Lincolnshire—

(a)     sydd wedi’u cyfansoddi o lo caled (sef rhyw 60 i 95% o'r cyfanswm pwysau), golosg petrolewm (hyd at ryw 30% o'r cyfanswm pwysau), glo meddal (hyd at  ryw 15% o'r cyfanswm pwysau) a rhwymwr triagl ac asid ffosfforig neu rwymwr organig (sef gweddill y pwysau);

(b)     a weithgynhyrchwyd o'r cyfansoddion hynny drwy broses sy'n cynnwys rholio-wasgu a thriniaeth wres ar ryw 300°C;

(c)     sy'n frics glo heb eu marcio ar siâp clustog sy'n pwyso 48 gram ar gyfartaledd; a

(d)     nad yw’r sylffwr sydd ynddynt yn fwy na 2% o’r cyfanswm pwysau.

4. Big K Instant Lighting Fire Logs, a weithgynhyrchir gan Allspan BV yn Macroweg 4, 5804 CL Venray, Yr Iseldiroedd—

(a)     sydd wedi’u cyfansoddi o gwyr hydrin (sef rhyw 58 i 59% o'r cyfanswm pwysau), a blawd llif pren caled (sef gweddill y pwysau);

(b)     a weithgynhyrchwyd o'r cyfansoddion hynny drwy broses triniaeth wres ac allwthio;

(c)     sy'n rhyw 235 o filimetrau eu hyd a 80 o filimetrau eu dyfnder, gyda rhigolau ar hyd yr wynebau, ac sy'n pwyso 1.1 cilogram ar gyfartaledd; a

(d)     nad yw’r sylffwr sydd ynddynt yn fwy na 0.1% o’r cyfanswm pwysau.

5. Big K Restaurant Grade Charcoal, a weithgynhyrchir gan Big K Products UK Limited yn Parque Industrial Alvear, 2126 Alvear, Provincia de Santa Fe, Yr Ariannin—

(a)     sydd wedi’u gyfansoddi o bren quebracho gwyn wedi’i byroleisio;

(b)   a weithgynhyrchwyd drwy ddefnyddio proses pyrolysis odyn ar ryw 450°C;

(c)     sy’n ddarnau golosg heb eu marcio, rhwng 30 o filimetrau a 150 o filimetrau; a

(d)     nad yw’r sylffwr sydd ynddynt yn fwy na 2% o’r cyfanswm pwysau.

6. Brics glo Black Diamond Gem, a weithgynhyrchir gan Coal Products Limited yn Immingham Briquetting Works, Immingham, North East Lincolnshire—

(a)     sydd wedi’u cyfansoddi o lwch glo caled (sef rhyw 20 i 30% o'r cyfanswm pwysau), golosg petrolewm (sef rhyw 40 i 45% o'r cyfanswm pwysau), glo meddal (sef rhyw 12 i 22% o'r cyfanswm pwysau) a rhwymwr triagl ac asid ffosfforig (sef gweddill y pwysau);

(b)     a weithgynhyrchwyd o'r cyfansoddion hynny drwy broses sy'n cynnwys rholio-wasgu a thriniaeth wres ar ryw 300°C;

(c)     sy'n frics glo ar siâp gobennydd wedi'u marcio â dwy linell gyfochrog sydd wedi'u hindentio ac yn rhedeg yn lledredol o amgylch y fricsen ac sy'n pwyso 160 gram ar gyfartaledd; a

(d)     nad yw’r sylffwr sydd ynddynt yn fwy nag 1.5% o’r cyfanswm pwysau.

7. Bord na Móna Firelogs, a weithgynhyrchir gan Bord na Móna Fuels Limited, Newbridge, County  Kildare, Iwerddon—

(a)     sydd wedi’u cyfansoddi o gwyr hydrin (sef rhyw 55% o'r cyfanswm pwysau) a blawd llif pren caled (sef gweddill y pwysau);

(b)     a weithgynhyrchwyd o'r cyfansoddion hynny drwy broses triniaeth wres ac allwthio;

(c)     sy'n rhyw 255 o filimetrau eu hyd a 75 o filimetrau eu diamedr, gyda rhigolau ar hyd un wyneb hydredol, yn pwyso 1.3 cilogram (net) ar gyfartaledd; a

(d)     nad yw’r sylffwr sydd ynddynt yn fwy na 0.1% o’r cyfanswm pwysau.

8. Brics glo Bord na Móna Firepak (sy'n cael eu marchnata hefyd fel brics glo Arigna Special), a weithgynhyrchir gan Bord na Móna Fuels Limited, Newbridge, County Kildare, Iwerddon—

(a)     sydd wedi’u cyfansoddi o lo caled (sef rhyw 50% o'r cyfanswm pwysau), golosg petrolewm (sef rhyw 20 i 40% o'r cyfanswm pwysau), glo meddal (sef rhyw 10 i 30% o'r cyfanswm pwysau) a rhwymwr sydd wedi'i seilio ar starts (sef gweddill y pwysau);

(b)     a weithgynhyrchwyd o'r cyfansoddion hynny drwy broses sy'n cynnwys rholio-wasgu a thriniaeth wres;

(c)     sy'n frics glo heb eu marcio ar siâp gobennydd, yn pwyso 50 gram ar gyfartaledd; a

(d)     nad yw’r sylffwr sydd ynddynt yn fwy nag 1.5% o’r cyfanswm pwysau.

9. Brics glo Briteflame, a weithgynhyrchir gan Maxibrite Limited ar Ystad Ddiwydiannol Mwyndy, Llantrisant, Rhondda Cynon Taf—

(a)     sydd wedi’u cyfansoddi o lo meddal (sef rhyw 10 i 15% o'r cyfanswm pwysau), golosg petrolewm (sef rhyw 10 i 15% o'r cyfanswm pwysau), llwch glo caled (sef rhyw 70 i 80% o'r cyfanswm pwysau) a rhwymwr starts (sef gweddill y pwysau);

(b)     a weithgynhyrchwyd o'r cyfansoddion hynny drwy broses sy'n cynnwys rholio-wasgu a thriniaeth wres ar ryw 260°C;

(c)     sy'n frics glo heb eu marcio ar siâp gobennydd, yn pwyso 140 gram ar gyfartaledd; a

(d)     nad ydynt yn cynnwys mwy nag 1.9% o sylffwr pan fyddant yn sych.

10. Brics glo Briteheat, a weithgynhyrchir gan Coal Products Limited yn Immingham Briquetting Works, Immingham, North East Lincolnshire—

(a)     sydd wedi'u cyfansoddi o lo caled (sef rhyw 60 i 85% o’r cyfanswm pwysau), golosg petrolewm (hyd at ryw 30% o’r cyfanswm pwysau), glo meddal (hyd at ryw 15% o’r cyfanswm pwysau), a rhwymwr triagl ac asid ffosfforig (sef gweddill y pwysau);

(b)     a weithgynhyrchwyd o'r cyfansoddion hynny drwy broses sy’n cynnwys rholio-wasgu a thriniaeth wres ar ryw 300°C;

(c)     sy'n frics glo ar siâp clustogau gyda llinell wedi'i hindentio'n rhedeg yn hydredol o'u cwmpas ac sy'n pwyso 30 gram ar gyfartaledd; a

(d)     nad yw’r sylffwr sydd ynddynt yn fwy na 2% o’r cyfanswm pwysau.

11. Brics glo Briteheat Plus, a weithgynhyrchir gan Coal Products Limited yn Immingham Briquetting Works, Immingham, North East Lincolnshire—

(a)     sydd wedi’u cyfansoddi o lwch glo caled (sef rhyw 75 i 95% o’r cyfanswm pwysau), golosg petrolewm (hyd at ryw 20% o’r cyfanswm pwysau) a rhwymwr organig (sef gweddill y pwysau);

(b)     a weithgynhyrchwyd o’r cyfansoddion hynny drwy broses sy’n cynnwys rholio-wasgu;

(c)     sy’n frics glo heb eu marcio ar siâp gobennydd ac sy’n pwyso 80 gram y fricsen ar gyfartaledd; a

(d)     nad yw’r sylffwr sydd ynddynt yn fwy na 2% o’r cyfanswm pwysau.

12. Bryant and May Firelogs, a weithgynhyrchir gan Swedish Match yn Kostenetz, Bwlgaria—

(a)     sydd wedi’u cyfansoddi o gwyr paraffin (sef rhyw 50% o'r cyfanswm pwysau), pren poplys mâl (sef rhyw 25% o'r cyfanswm pwysau), blawd gwenith (sef rhyw 15% o'r cyfanswm pwysau), solidau cyneuadwy ar wasgar mewn cwyr paraffin ar ffurf jel (sef rhyw 1 % o'r cyfanswm pwysau) a dŵr, cyfryngau chwyddo a chadwolyn (sef gweddill y pwysau);

(b)     a weithgynhyrchwyd o'r cyfansoddion hynny drwy broses sy'n cynnwys allwthio;

(c)     y mae iddynt drawstoriadau cwadrant o ryw 80 o filimetrau o radiws, ac sy'n rhyw 265 o filimetrau o hyd gyda stribyn cynnau ar hyd un ymyl, ac sy'n pwyso rhyw 1.15 cilogram; a

(d)     nad yw’r sylffwr sydd ynddynt yn fwy na 0.1% o’r cyfanswm pwysau.

13. Brics glo Charglow, a weithgynhyrchir gan Polchar Spolka z organiczona odpowiedzialnoscia, Police, Zachodniopomorskie, Gwlad Pwyl—

(a)     sydd wedi’u cyfansoddi o olosg glo meddal (sef rhyw 45 i 95% o'r cyfanswm pwysau), glo caled (sef rhyw 0 i 20% o'r cyfanswm pwysau), golosg petrolewm (sef rhyw 0 i 20% o'r cyfanswm pwysau), glo meddal (sef rhyw 0 i 10% o'r cyfanswm pwysau) a rhwymwr organig (sef gweddill y pwysau);

(b)     a weithgynhyrchwyd o'r cyfansoddion hynny drwy broses sy'n cynnwys rholio-wasgu a thriniaeth wres ar ryw 110°C;

(c)     sy'n frics glo heb eu marcio ar siâp gobennydd, yn pwyso 100 gram ar gyfartaledd; a

(d)     nad yw’r sylffwr sydd ynddynt yn fwy nag 1.5% o’r cyfanswm pwysau.

14. Coalite, a weithgynhyrchir gan Coalite Products Limited yn Bolsover, ger Chesterfield, Derbyshire ac yn Grimethorpe, South Yorkshire drwy ddefnyddio proses carboneiddio tymheredd isel.

15. Brics glo Coalite Ovals, a weithgynhyrchir gan Maxibrite Limited yn Ystad Ddiwydiannol Mwyndy, Llantrisant, Rhondda Cynon Taf—

(a)     sydd wedi’u cyfansoddi o lo meddal (sef rhyw 10 i 15% o’r cyfanswm pwysau), golosg petrolewm (sef rhyw 10 i 15% o’r cyfanswm pwysau), llwch glo caled (sef rhyw 70 i 80% o’r cyfanswm pwysau) a rhwymwr starts (sef gweddill y pwysau);

(b)     a weithgynhyrchwyd o’r cyfansoddion hynny drwy broses sy’n cynnwys rholio-wasgu a thriniaeth wres ar ryw 260ºC;

(c)     sy’n frics glo heb eu marcio ar siâp gobennydd â’u hyd yn rhyw 84.2 o filimetrau ac yn 61.5 o filimetrau x 37.8 o filimetrau ac sy’n pwyso 118 gram y fricsen ar gyfartaledd; a

(d)     nad yw’r sylffwr sydd ynddynt yn fwy nag 1.9% o’r cyfanswm pwysau pan fyddant yn sych.

16. Golosg a weithgynhyrchir gan—

(a)     Coal Products Limited yn Cwm Coking Works, Llanilltud Faerdref, Pontypridd, Rhondda Cynon Taf, a'i werthu fel "Sunbrite";

(b)     Monckton Coke & Chemical Company Limited yn Royston, ger Barnsley, South Yorkshire a'i werthu fel "Sunbrite" neu "Monckton Boiler Beans";

(c)     Corus UK Limited yn Teesside Works, Redcar & Cleveland a'i werthu fel "Redcar Coke Nuts (Doubles)"; a

(d)     Coal Products Limited yn Cwm Coking Works, Llanilltud Faerdref, Pontypridd, Rhondda Cynon Taf a'i werthu fel "Cwm Coke Doubles".

17. Cosycoke (sydd hefyd yn cael ei farchnata fel Lionheart Crusader neu Sunbrite Plus), a weithgynhyrchir gan Monckton Coke & Chemical Company Limited yn Royston, ger Barnsley, South Yorkshire ac Aimcor Supercoke (sydd hefyd yn cael ei farchnata fel Supercoke), a weithgynhyrchir gan M & G Fuels Limited yn Hartlepool Docks, Hartlepool, ac ym mhob achos—

(a)     sydd wedi’u cyfansoddi o olosg caled o faint penodol (sef rhyw 45 i 65% o'r cyfanswm pwysau) a golosg petrolewm o faint penodol (sef gweddill y pwysau);

(b)     a weithgynhyrchwyd o'r cyfansoddion hynny drwy eu cyfuno;

(c)     sy'n hapsiapiau heb eu marcio; a

(d)     nad yw’r sylffwr sydd ynddynt yn fwy na 2% o’r cyfanswm pwysau.

18. Brics glo Dragonbrite, a weithgynhyrchir gan Tower Colliery Limited yn Aberdâr, Rhondda Cynon Taf—

(a)     sydd wedi’u cyfansoddi o lwch y twr (sef rhyw 95% o gyfanswm y pwysau) a rhwymwr wedi ei seilio ar resin (sef gweddill y pwysau);

(b)     a weithgynhyrchwyd o'r cyfansoddion hynny drwy broses sy'n cynnwys rholio-wasgu a chaledu oer;

(c)     sy'n frics glo ar siâp gobennydd, wedi eu marcio â'r llythyren "T" ar un ochr ac sy'n pwyso 50 gram ar gyfartaledd; a

(d)     nad yw’r sylffwr sydd ynddynt yn fwy nag 1% o’r cyfanswm pwysau.

19. Brics glo Dragonglow, a weithgynhyrchir gan Tower Colliery Limited yn Aberdâr, Rhondda Cynon Taf—

(a)     sydd wedi’u cyfansoddi o lwch y twr (sef rhyw 95% o gyfanswm y pwysau) a rhwymwr wedi ei seilio ar resin (sef gweddill y pwysau);

(b)     a weithgynhyrchwyd o'r cyfansoddion hynny drwy broses sy'n cynnwys rholio-wasgu a chaledu oer;

(c)     sy'n frics glo heb eu marcio ar siâp gobennydd, yn pwyso 100 gram ar gyfartaledd; a

(d)     nad yw’r sylffwr sydd ynddynt yn fwy na 1% o’r cyfanswm pwysau.

20. Duraflame Firelogs, a weithgynhyrchir gan Paramelt BV, Costerstraat 18, PO Box 86, 1700 AB Heerhugowaard, Yr Iseldiroedd—

(a)     sydd wedi’u cyfansoddi o gwyr petrolewm sydd wedi'i seilio ar fwynau (sef rhyw 55% o'r cyfanswm pwysau) a ffibr pren caled mâl (sef gweddill y pwysau);

(b)     a weithgynhyrchwyd o'r cyfansoddion hynny drwy broses triniaeth wres ac allwthio;

(c)     sy'n rhyw 320 o filimetrau eu hyd, 90 o filimetrau eu huchder ac 85 o filimetrau eu lled, yn pwyso 1.45 cilogram ar gyfartaledd; a

(d)     nad yw’r sylffwr sydd ynddynt yn fwy na 0.1% o’r cyfanswm pwysau.

21. Brics glo Ecoal, a weithgynhyrchir gan Coal Products Limited yn Immingham Briquetting Works, Immingham, North East Lincolnshire—

(a)     sydd wedi’u cyfansoddi o ronynnau glo caled (sef rhyw 40 i 65% o'r cyfanswm pwysau), golosg petrolewm (sef rhyw 20 i 40% o'r cyfanswm pwysau), cols (sef rhyw 0 i 10% o'r cyfanswm pwysau), glo meddal (sef rhyw 0 i 20% o'r cyfanswm pwysau), biomas (sef rhyw 5 i 20% o'r cyfanswm pwysau) a rhwymwr triagl ac asid ffosfforig (sef gweddill y pwysau);

(b)     a weithgynhyrchwyd o'r cyfansoddion hynny drwy broses sy'n cynnwys rholio-wasgu;

(c)     sy'n frics glo chweochrog heb eu marcio ac sy'n pwyso 125 gram ar gyfartaledd; a

(d)     nad yw’r sylffwr sydd ynddynt yn fwy na 2% o’r cyfanswm pwysau.

22. Brics glo Ecoal 50, a weithgynhyrchir gan Coal Products Limited yn Immingham Briquetting Works, Immingham, North East Lincolnshire—

(a)     sydd wedi’u cyfansoddi o ronynnau glo caled (sef rhyw 30 i 55% o’r cyfanswm pwysau), biomas (sef rhyw 25 i 35% o’r cyfanswm pwysau), golosg petrolewm (sef rhyw 10 i 40% o’r cyfanswm pwysau), glo meddal (sef rhyw 0 i 5% o’r cyfanswm pwysau) a rhwymwr organig naturiol (sef gweddill y pwysau);

(b)     a weithgynhyrchwyd o’r cyfansoddion hynny drwy broses sy’n cynnwys rholio-wasgu yna triniaeth wres ar ryw 300ºC mewn amgylchedd wedi ei reoli, â llai o ocsigen;

(c)     sy’n frics glo ar siâp hecsagon gyda un streipen ar un ochr ar draws y rhannau gwastad ac sy’n pwyso 135 gram y fricsen ar gyfartaledd; a

(d)     nad yw’r sylffwr sydd ynddynt yn fw na 2% o’r cyfanswm pwysau.

23. Brics glo Ecobrite, a weithgynhyrchir gan Arigna Fuels Limited yn Arigna, Carrick-on-Shannon, County  Roscommon, Iwerddon—

(a)     sydd wedi’u cyfansoddi o ronynnau glo caled (sef rhyw 96% o'r cyfanswm pwysau) a starts yn rhwymwr (sef gweddill y pwysau);

(b)     a weithgynhyrchwyd o'r cyfansoddion hynny drwy broses sy'n cynnwys rholio-wasgu a thriniaeth wres ar ryw 250°C;

(c)     sy'n frics glo heb eu marcio ar siâp gobennydd mewn dau faint sydd, ar gyfartaledd, yn pwyso 37 gram yn achos y maint lleiaf a 48 gram yn achos y maint mwyaf; a

(d)     nad yw’r sylffwr sydd ynddynt yn fwy nag 1.5% o’r cyfanswm pwysau.

24. Brics glo EDF Fuel, a weithgynhyrchir gan TheGreenFactory yn  y Laboratoire de Chimie Agro-industrielle UMR 1010 INRA/INP-ENSIACET AGROMAT, Site de l’ENIT 47, Avenue D’Azereiz, -BP 1629 65016 Tarbes Cedex, Ffrainc—

(a)     sydd wedi’u cyfansoddi o ryw 100 gram o Miscanthus heb ei brosesu (sef rhyw 45% o’r cyfanswm pwysau), rhyw 95 gram o ester Copra (sef rhyw 43% o’r cyfanswm pwysau), a rhyw 25 gram o rwymwr a gynhyrchwyd o Miscanthus (wedi’i brosesu gyda chalsiwm ocsid, sef rhyw 0.5% o’r cyfanswm pwysau) sef gweddill y pwysau;

(b)     a weithgynhyrchwyd o’r cyfansoddion hynny drwy broses sy’n cynnwys prosesu Miscanthus, cymysgu, poethwasgu, a throchi mewn baddon ester;

(c)     sy’n frics glo ar siâp silindr sydd heb eu marcio, y mae eu huchder yn 120 o filimetrau a’u diamedr yn 60 o filimetrau, ac y mae twll ar siâp seren yn rhedeg yn ganolog drwy ochr hiraf y fricsen ac sy’n pwyso 220 gram ar gyfartaledd; a

(d)     nad yw’r sylffwr sydd ynddynt yn fwy na 2% o’r cyfanswm pwysau.

25. Brics glo Excel+, a weithgynhyrchir gan Oxbow Coal BV yn Newfield Works, Bishop Auckland, County Durham—

(a)     sydd wedi’u cyfansoddi o olosg petrolewm (sef 65 i 70% o’r cyfanswm pwysau), glo caled (sef 25% o’r cyfanswm pwysau) a rhwymwr resin sy’n caledu pan fo’n oer, caledwr a sefydlogydd tymheredd isel (sef gweddill y pwysau);

(b)     a gynhyrchir ar dymheredd amgylchynol drwy broses sy’n cynnwys rholio-wasgu a chaledu oer;

(c)     sy’n frics glo sgwâr, heb eu marcio, ar siâp gobennydd ac sy’n pwyso 100 gram y fricsen ar gyfartaledd; a

(d)     nad yw’r sylffwr sydd ynddynt yn fwy na 1.9% o’r cyfanswm pwysau.

26. Brics glo Extracite, a weithgynhyrchir gan Sophia-Jacoba Handelsgesellschaft GmbH yn Hückelhoven, Yr Almaen—

(a)     sydd wedi’u cyfansoddi o lwch glo caled (sef rhyw 95.5% o'r cyfanswm pwysau) a lleisw amoniwm lignosylffonad yn rhwymwr (sef gweddill y pwysau);

(b)     a weithgynhyrchwyd o'r cyfansoddion hynny drwy broses sy'n cynnwys rholio-wasgu a thriniaeth wres ar ryw 260°C;

(c)     sy'n frics glo ariannaidd ar siâp clustog a'r llythrennau "S" a "J" wedi'u marcio arnynt ac sy'n pwyso 40 gram ar gyfartaledd; a

(d)     sy'n cynnwys rhyw 1.2% o sylffwr o'r cyfanswm pwysau.

27. Brics glo Fireglo, a weithgynhyrchir gan Les Combustibles de Normandie yn Caen, Ffrainc, a chan La Société Rouennaise de Défumage yn Rouen, Ffrainc—

(a)     sydd wedi’u cyfansoddi o lychau Cymreig wedi'u golchi (sef rhyw 92% o'r cyfanswm pwysau) a rhwymwr pyg glo (sef gweddill y pwysau);

(b)     a weithgynhyrchwyd o'r cyfansoddion hynny drwy broses sy'n cynnwys rholio-wasgu a thriniaeth wres ar ryw 330°C;

(c)     sy'n ofoidau â thair llinell ar un ochr a'r ochr arall yn llyfn ac sy'n pwyso 30 gram ar gyfartaledd; a

(d)     nad yw’r sylffwr sydd ynddynt yn fwy na 0.8% o’r cyfanswm pwysau.

28. Brics glo Homefire, a weithgynhyrchir gan Coal Products Limited yn Immingham Briquetting Works, Immingham, North East Lincolnshire—

(a)     sydd wedi’u cyfansoddi o ronynnau glo caled (sef rhyw 40 i 70% o'r cyfanswm pwysau), golosg petrolewm (sef rhyw 20 i 45% o'r cyfanswm pwysau), cols (sef rhyw 0 i 10% o'r cyfanswm pwysau), glo meddal (sef rhyw 5 i 30% o'r cyfanswm pwysau) a rhwymwr organig neu rwymwr triagl ac asid ffosfforig (sef gweddill y pwysau);

(b)     a weithgynhyrchwyd o'r cyfansoddion hynny drwy broses sy'n cynnwys rholio-wasgu;

(c)     sydd, fel brics glo gorffenedig, yn cynnwys nid llai na 9% ac nid mwy na 15% o fater anweddol o'r cyfanswm pwysau pan fyddant yn sych;

(d)     sy'n frics glo chweochrog heb eu marcio ac sy'n pwyso 140 gram ar gyfartaledd; ac

(e)     nad yw’r sylffwr sydd ynddynt yn fwy na 2% o’r cyfanswm pwysau.

29. Homefire Fire Logs,  a weithgynhyrchir gan De Lange BV, Rustenbugerweg 3, 1646 WJ Ursem, Yr Iseldiroedd—

(a)     sydd wedi’u cyfansoddi o gwyr hydrin (sef rhyw 50% o’r cyfanswm pwysau) a blawd llif (sef rhyw 50% o’r cyfanswm pwysau);

(b)     a weithgynhyrchwyd o’r cyfansoddion hynny drwy broses triniaeth wres ac allwthio;

(c)     sy’n rhyw 280 o filimetrau eu hyd ac yn 75 o filimetrau x 75 o filimetrau gydag un rhigol yn rhedeg ar hyd pob un o’u pedwar wyneb sy’n 280 o filimetrau eu hyd ac sy’n pwyso 1.1 cilogram ar gyfartaledd; a

(d)     nad yw’r sylffwr sydd ynddynt yn fwy na 0.2% o’r cyfanswm pwysau.

30. Homefire Ovals, a weithgynhyrchir gan Coal Products Limited yn Immingham Briquetting Works, Immingham, North East Lincolnshire—

(a)     sydd wedi’u cyfansoddi o lwch glo caled (sef rhyw 57% o'r cyfanswm pwysau), golosg petrolewm (sef rhyw 17% o'r cyfanswm pwysau), glo meddal (sef rhyw 13% o'r cyfanswm pwysau) a rhwymwr triagl ac asid ffosfforig (sef gweddill y pwysau);

(b)     a weithgynhyrchwyd o'r cyfansoddion hynny drwy broses sy'n cynnwys rholio-wasgu a thriniaeth wres ar ryw 300°C;

(c)     sy'n frics glo ar siâp gobennydd wedi'u marcio â dwy linell gyfochrog sydd wedi'u hindentio ac yn rhedeg yn lledredol o amgylch y fricsen ac sy'n pwyso 135 gram ar gyfartaledd; a

(d)     nad yw’r sylffwr sydd ynddynt yn fwy na 2% o’r cyfanswm pwysau.

31. Homefire Ovals (R), a weithgynhyrchir gan Coal Products Limited yn Immingham Briquetting Works, Immingham, North East Lincolnshire—

(a)     sydd wedi’u cyfansoddi o ronynnau glo caled (sef rhyw 50 i 75% o'r cyfanswm pwysau), golosg petrolewm (sef rhyw 20 i 45% o'r cyfanswm pwysau), glo meddal (sef rhyw 5 i 17% o'r cyfanswm pwysau) a rhwymwr organig (sef gweddill y pwysau);

(b)     a weithgynhyrchwyd o'r cyfansoddion hynny drwy broses sy'n cynnwys rholio-wasgu;

(c)     sy'n frics glo ar siâp gobennydd wedi'u marcio â dwy linell gyfochrog sydd wedi'u hindentio ac yn rhedeg yn lledredol o amgylch y fricsen ac sy'n pwyso 130 gram ar gyfartaledd; a

(d)     nad yw’r sylffwr sydd ynddynt yn fwy na 2% o’r cyfanswm pwysau.

32. Hot Drops, a weithgynhyrchir gan EU Zeme Limited yn Riga, Eksporta Street 15, LV-1045, Latfia—

(a)     sydd wedi’u cyfansoddi o lo caled wedi ei falu (sef rhyw 73% o’r cyfanswm pwysau), glo meddal (sef rhyw 18% o’r cyfanswm pwysau) a rhwymwr triagl ac asid orthoffosfforig (sef gweddill y pwysau);

(b)     a weithgynhyrchwyd o’r cyfansoddion hynny drwy broses sy’n cynnwys rholio-wasgu, yna triniaeth wres ar ryw 250 i 280ºC;

(c)     sy’n frics glo, bron yn grwn ar siâp gobennydd, sydd 40 o filimetrau eu diamedr ac sy’n rhyw 21 o filimetrau o drwch yng nghanol y fricsen ac sy’n pwyso 23 gram ar gyfartaledd; a

(d)     nad yw’r sylffwr sydd ynddynt yn fwy na 0.5% o’r cyfanswm pwysau.

33. Island Lump ac Island Nuts, a weithgynhyrchir gan Unocal Refinery, California, Unol Daleithiau America—

(a)     sydd wedi’u cyfansoddi o olosg petrolewm;

(b)     a weithgynhyrchwyd o'r golosg petrolewm drwy broses sy'n cynnwys triniaeth wres a chwistrellu stêm;

(c)     sy'n hapsiapiau heb eu marcio ac sy'n pwyso 80 gram ar gyfartaledd (Island Lump) neu 30 gram ar gyfartaledd (Island Nuts); a

(d)     nad yw’r sylffwr sydd ynddynt yn fwy na 2% o’r cyfanswm pwysau.

34. Brics glo Jewel, a weithgynhyrchir gan Eldon Colliery Limited yn Newfield Works, Bishop Auckland, County Durham—

(a)     sydd wedi’u cyfansoddi o lo caled (sef rhyw 30 i 50% o'r cyfanswm pwysau), golosg petrolewm Long Beach (sef rhyw 50 i 70% o'r cyfanswm pwysau) a rhwymwr carbohydrad (sef gweddill y pwysau);

(b)     a weithgynhyrchwyd o'r cyfansoddion hynny drwy broses sy'n cynnwys rholio-wasgu a thriniaeth wres ar ryw 150°C;

(c)     sy'n frics glo heb eu marcio ar siâp gobennydd, yn pwyso 33 gram ar gyfartaledd; a

(d)     nad yw’r sylffwr sydd ynddynt yn fwy nag 1.5% o’r cyfanswm pwysau.

35. La Hacienda Easy Logs, a weithgynhyrchir gan Allspan BV yn Macroweg 4, 5804 CL Venray, Yr Iseldiroedd—

(a)     sydd wedi’u cyfansoddi o gwyr hydrin (sef rhyw 58 i 59% o'r cyfanswm pwysau), a blawd llif pren caled (sef gweddill y pwysau);

(b)     a weithgynhyrchwyd o'r cyfansoddion hynny drwy broses triniaeth wres ac allwthio;

(c)     sy'n rhyw 235 o filimetrau eu hyd a 80 o filimetrau eu dyfnder, gyda rhigolau ar hyd yr wynebau, ac sy'n pwyso 1.1 cilogram ar gyfartaledd; a

(d)     nad yw’r sylffwr sydd ynddynt yn fwy na 0.1% o’r cyfanswm pwysau.

36. Long Beach Lump nuts (a elwir fel arall yn LBL nuts), a weithgynhyrchir gan Aimcor Carbon Corporation yn Long Beach, California, Unol Daleithiau America neu a weithgynhyrchir gan Oxbow Carbon & Minerals LLC, 330 Golden Shore, Suite 210, Long Beach, California 90802, Unol Daleithiau America—

(a)   sydd wedi’u cyfansoddi o olosg petrolewm (sef rhyw 85 i 100% o'r cyfanswm pwysau), calchfaen (sef rhyw 0 i 10% o'r cyfanswm pwysau) a phyg tar glo (sef gweddill y pwysau);

(b)     a weithgynhyrchwyd o'r cyfansoddion hynny drwy broses sy'n cynnwys triniaeth wres a chwistrellu stêm;

(c)     sy'n hapsiapiau heb eu marcio; a

(d)     nad yw’r sylffwr sydd ynddynt yn fwy na 2% o’r cyfanswm pwysau.

37. Brics glo Maxibrite, a weithgynhyrchir gan Maxibrite Limited yn Llantrisant, Rhondda Cynon Taf—

(a)     sydd wedi’u cyfansoddi o ronynnau glo caled (sef rhyw 84% o'r cyfanswm pwysau), golosg petrolewm (sef rhyw 12% o'r cyfanswm pwysau) a starts yn rhwymwr (sef gweddill y pwysau);

(b)     a weithgynhyrchwyd o'r cyfansoddion hynny drwy broses sy'n cynnwys rholio-wasgu a thriniaeth wres ar ryw 250°C;

(c)     sy'n frics ar siâp clustog wedi'u marcio â'r llythyren "M" ac sy'n pwyso 35 gram ar gyfartaledd; a

(d)     nad yw’r sylffwr sydd ynddynt yn fwy na 2% o’r cyfanswm pwysau.

38. Brics glo Multiheat, a weithgynhyrchir gan Coal Products Limited yn Immingham Briquetting Works, Immingham, North East Lincolnshire—

(a)     sydd wedi’u cyfansoddi o lo caled (sef rhyw 60 i 80% o'r cyfanswm pwysau), golosg petrolewm (sef rhyw 10 i 30% o'r cyfanswm pwysau) a rhwymwr triagl ac asid ffosfforig (sef gweddill y pwysau);

(b)     a weithgynhyrchwyd o'r cyfansoddion hynny drwy broses sy'n cynnwys rholio-wasgu a thriniaeth wres ar ryw 300°C;

(c)     sy'n frics glo heb eu marcio ar siâp gobennydd, yn pwyso naill ai 55 neu 80 gram ar gyfartaledd fesul bricsen; a

(d)     nad yw’r sylffwr sydd ynddynt yn fwy na 2% o’r cyfanswm pwysau.

39. Brics glo Newburn, a weithgynhyrchir gan ECL Mineral Processing Limited yn Newfield Works, Newfield, Bishop Auckland, County Durham—

(a)     sydd wedi’u cyfansoddi o olosg petrolewm (sef rhyw 56 i 57% o’r cyfanswm pwysau), glo caled (sef rhyw 37 i 38% o’r cyfanswm pwysau) a rhwymwr powdr sych (sef gweddill y pwysau);

(b)     a weithgynhyrchwyd o’r cyfansoddion hynny drwy broses o galedu oer gan ddefnyddio rholer gwasgu;

(c)     sy’n frics glo heb eu marcio ar siâp gobennydd sy’n 70 o filimetrau x 62 o filimetrau x 42 o filimetrau ac sy’n pwyso 110 gram ar gyfartaledd; a

(d)     nad yw’r sylffwr sydd ynddynt yn fwy na 2% o’r cyfanswm pwysau.

40. Brics glo Newflame, a weithgynhyrchir gan Maxibrite Limited yn Llantrisant, Rhondda Cynon Taf—

(a)     sydd wedi’u cyfansoddi o ronynnau glo caled (sef rhyw 84% o'r cyfanswm pwysau), golosg petrolewm (sef rhyw 12% o'r cyfanswm pwysau) a starts yn rhwymwr (sef gweddill y pwysau);

(b)     a weithgynhyrchwyd o'r cyfansoddion hynny drwy broses sy'n cynnwys rholio-wasgu a thriniaeth wres ar ryw 260°C;

(c)     sy'n frics glo heb eu marcio ar siâp gobennydd, yn pwyso 78 gram ar gyfartaledd; a

(d)     nad yw’r sylffwr sydd ynddynt yn fwy na 2% o’r cyfanswm pwysau.

41. Brics glo Newflame Plus, a weithgynhyrchir gan Maxibrite Limited, Ystad Ddiwydiannol Mwyndy, Llantrisant, Rhondda Cynon Taf—

(a)     sydd wedi’u cyfansoddi o lo meddal (sef rhyw 10 i 15% o’r cyfanswm pwysau), golosg petrolewm (sef rhyw 10 i 15% o’r cyfanswm pwysau), llwch glo caled (sef rhyw 70 i 80% o’r cyfanswm pwysau) a rhwymwr starts (sef gweddill y pwysau);

(b)     a weithgynhyrchwyd o’r cyfansoddion hynny drwy broses sy’n cynnwys rholio-wasgu a thriniaeth wres ar ryw 260°C;

(c)     sy’n frics glo heb eu marcio ar siâp gobennydd ac y mae uchafswm eu dimensiynau yn rhyw 68 o filimetrau x 63 o filimetrau x 38 o filimetrau ac sy’n pwyso 110 gram ar gyfartaledd; a

(d)     nad yw’r sylffwr sydd ynddynt yn fwy na 1.9% o’r cyfanswm pwysau pan fyddant yn sych.

42. Brics glo Newheat, a weithgynhyrchir gan Oxbow Coal BV yn Newfield Works, Bishop Auckland, County Durham—

(a)     sydd wedi’u cyfansoddi o olosg petrolewm (sef rhyw 60 i 65% o’r cyfanswm pwysau), glo caled (sef rhyw 30 i 35% o’r cyfanswm pwysau) a rhwymwr resin sy’n caledu pan fo’n oer, caledwr a sefydlogydd tymheredd isel (sef gweddill y pwysau);

(b)     a gynhyrchwyd ar dymheredd amgylchynol drwy broses sy’n cynnwys rholio-wasgu a chaledu oer;

(c)     sy’n frics glo hirgrwn, heb eu marcio, ar siâp gobennydd ac sy’n pwyso rhyw 100 gram ar gyfartaledd; a

(d)     nad yw’r sylffwr sydd ynddynt yn fwy na 1.9% o’r cyfanswm pwysau.

43. Optima Fire Logs, a weithgynhyrchir gan Allspan BV yn Macroweg 4, 5804 CL Venray, Yr Iseldiroedd—

(a)     sydd wedi’u cyfansoddi o gwyr hydrin (sef rhyw 58 i 59% o'r cyfanswm pwysau), a blawd llif pren caled (sef gweddill y pwysau);

(b)     a weithgynhyrchwyd o'r cyfansoddion hynny drwy broses triniaeth wres ac allwthio;

(c)     sy'n rhyw 235 o filimetrau eu hyd a 80 o filimetrau eu dyfnder, gyda rhigolau ar hyd yr wynebau, ac sy'n pwyso 1.1 cilogram ar gyfartaledd; a

(d)     nad yw’r sylffwr sydd ynddynt yn fwy na 0.1% o’r cyfanswm pwysau.

44. Brics glo Phurnacite, a weithgynhyrchir gan Coal Products Limited yn Immingham Briquetting Works, Immingham, North East Lincolnshire—

(a)     sydd wedi’u cyfansoddi o lwch glo caled (sef rhyw 65 i 85% o'r cyfanswm pwysau), golosg petrolewm (sef rhyw 20% o'r cyfanswm pwysau) a rhwymwr triagl ac asid ffosfforig (sef gweddill y pwysau);

(b)     a weithgynhyrchwyd o'r cyfansoddion hynny drwy broses sy'n cynnwys rholio-wasgu a thriniaeth wres ar ryw 300°C;

(c)     sy'n frics glo ar siâp ofoidau â dwy linell gyfochrog yn rhedeg yn hydredol o amgylch y fricsen ac sy'n pwyso 40 gram ar gyfartaledd; a

(d)     nad yw’r sylffwr sydd ynddynt yn fwy na 2% o’r cyfanswm pwysau.

45. Pyrobloc Fire Logs, a weithgynhyrchir gan Allspan BV yn Macroweg 4, 5804 CL Venray, Yr Iseldiroedd—

(a)     sydd wedi’u cyfansoddi o gwyr hydrin (sef rhyw 58 i 59% o'r cyfanswm pwysau), a blawd llif pren caled (sef gweddill y pwysau);

(b)     a weithgynhyrchwyd o'r cyfansoddion hynny drwy broses triniaeth wres ac allwthio;

(c)     sy'n rhyw 265 o filimetrau eu hyd a 80 o filimetrau eu dyfnder, gyda rhigolau ar hyd yr wynebau, ac sy'n pwyso 1.3 cilogram ar gyfartaledd; a

(d)     nad yw’r sylffwr sydd ynddynt yn fwy na 0.1% o’r cyfanswm pwysau.

46. Safelight Firelogs, a weithgynhyrchir gan Advanced Natural Fuels Limited, yn Pocklington, East Riding of Yorkshire—

(a)     sydd wedi’u cyfansoddi o sglodion pren (sef rhyw 40 i 55% o'r cyfanswm pwysau) a rhwymwr cwyr palmwydden (sef gweddill y pwysau);

(b)     a weithgynhyrchwyd o'r cyfansoddion hynny drwy broses sy'n cynnwys gwasgu'r cynhwysion, ar ôl eu cymysgu, ar ryw 40°C i 50°C;

(c)     sy'n foncyffion tân petryal caled â dwy agen ddofn sy'n gorgyffwrdd yn yr wyneb uchaf, un agen ddi-dor yn yr wyneb isaf, ac sy'n pwyso 1.8 cilogram ar gyfartaledd; a

(d)     nad yw’r sylffwr sydd ynddynt yn fwy na 2% o’r cyfanswm pwysau.

47. Brics glo Sovereign, a weithgynhyrchir gan Monckton Coke & Chemical Company Limited yn Royston, ger Barnsley, South Yorkshire—

(a)     sydd wedi’u cyfansoddi o lo caled (sef rhyw 75% o'r cyfanswm pwysau), glo a golosg adweithiol (sef rhyw 21% o'r cyfanswm pwysau) a rhwymwr resin sy'n caledu pan fo'n oer (sef gweddill y pwysau);

(b)     a weithgynhyrchwyd o'r cyfansoddion hynny drwy broses sy'n cynnwys allwthio;

(c)     sy'n frics glo chweochrog heb eu marcio ac sy'n pwyso 130 gram ar gyfartaledd; a

(d)     nad yw’r sylffwr sydd ynddynt yn fwy na 2% o’r cyfanswm pwysau.

48. Brics glo Stoveheat Premium, a weithgynhyrchir gan Coal Products Limited yn Immingham Briquetting Works, Immingham, North East Lincolnshire—

(a)     sydd wedi’u cyfansoddi o lwch glo caled (sef rhyw 65 i 85% o gyfanswm eu pwysau), golosg petrolewm (sef rhyw 20% o’r cyfanswm pwysau) a rhwymwr triagl ac asid ffosfforig (sef gweddill y pwysau);

(b)     a weithgynhyrchwyd o’r cyfansoddion hynny drwy broses sy’n cynnwys rholio-wasgu a thriniaeth wres ar ryw 300°C;

(c)     sy’n frics glo ar siâp clustogau, y mae llinell sydd wedi’i hindentio’n rhedeg o’u hamgylch ac sy’n pwyso 30 gram ar gyfartaledd; a

(d)     nad yw’r sylffwr sydd ynddynt yn cynnwys mwy na 2% o’r cyfanswm pwysau.

49. Supabrite Coke Doubles, a weithgynhyrchir gan H. J. Banks and Company Limited yn Inkerman Road Depot, Tow Law, County Durham—

(a)     sydd wedi’u cyfansoddi o olosg metelegol (sef rhyw 40 i 60% o'r cyfanswm pwysau) a golosg petrolewm (sef gweddill y pwysau);

(b)     a weithgynhyrchwyd o'r cyfansoddion hynny drwy broses sy'n cynnwys eu cyfuno a'u sgrinio;

(c)     sy'n hapsiapiau heb eu marcio; a

(d)     nad yw’r sylffwr sydd ynddynt yn fwy nag 1.95% o’r cyfanswm pwysau.

50. Supacite briquettes, a weithgynhyrchir gan Maxibrite Limited yn Llantrisant, Rhondda Cynon Taf—

(a)     sydd wedi’u cyfansoddi o ronynnau glo caled (sef rhyw 84% o'r cyfanswm pwysau), golosg petrolewm (sef rhyw 12% o'r cyfanswm pwysau) a starts yn rhwymwr (sef gweddill y pwysau);

(b)     a weithgynhyrchwyd o'r cyfansoddion hynny drwy broses sy'n cynnwys rholio-wasgu a thriniaeth wres ar ryw 240°C;

(c)     sy'n ofoidau heb eu marcio ac sy'n pwyso 45 gram ar gyfartaledd; a

(d)     nad yw’r sylffwr sydd ynddynt yn fwy na 2% o’r cyfanswm pwysau.

51. Brics glo Supertherm, a weithgynhyrchir gan Coal Products Limited yn Immingham Briquetting Works, Immingham, North East Lincolnshire—

(a)     sydd wedi’u cyfansoddi o gyfuniad (mewn cyfrannedd o 19:1) o lo caled a glo canolig ei anweddolrwydd (sef rhyw 93% o'r cyfanswm pwysau) a rhwymwr organig sy'n caledu pan fo'n oer neu rwymwr triagl ac asid ffosfforig (sef gweddill y pwysau);

(b)     a weithgynhyrchwyd o'r cyfansoddion hynny drwy broses sy'n cynnwys rholio-wasgu;

(c)     sy'n ofoidau heb eu marcio ac sy'n pwyso 160 gram ar gyfartaledd; a

(d)     nad yw’r sylffwr sydd ynddynt yn fwy nag 1.5% o’r cyfanswm pwysau.

52. Brics glo Supertherm II, a weithgynhyrchir gan Coal Products Limited yn Immingham Briquetting Works, Immingham, North East Lincolnshire—

(a)     sydd wedi’u cyfansoddi o lo caled (sef rhyw 36 i 51% o'r cyfanswm pwysau), golosg petrolewm (sef rhyw 40 i 55% o'r cyfanswm pwysau) a rhwymwr organig neu rwymwr triagl ac asid ffosfforig (sef gweddill y pwysau);

(b)     a weithgynhyrchwyd o'r cyfansoddion hynny drwy broses sy'n cynnwys rholio-wasgu;

(c)     sy'n ofoidau heb eu marcio ac sy'n pwyso 140 gram ar gyfartaledd; a

(d)     nad yw’r sylffwr sydd ynddynt yn fwy na 2% o’r cyfanswm pwysau.

53. Brics glo Taybrite (a elwir fel arall yn frics glo Surefire), a weithgynhyrchir gan Coal Products Limited yn Immingham Briquetting Works, Immingham, North East Lincolnshire—

(a)     sydd wedi’u cyfansoddi o lo caled (sef rhyw 60 i 80% o'r cyfanswm pwysau), golosg petrolewm (sef rhyw 10 i 30% o'r cyfanswm pwysau) a rhwymwr triagl ac asid ffosfforig (sef gweddill y pwysau);

(b)     a weithgynhyrchwyd o'r cyfansoddion hynny drwy broses sy'n cynnwys rholio-wasgu a thriniaeth wres ar ryw 300°C;

(c)     sy'n frics glo ar siâp gobennydd sydd wedi'u marcio ag un llinell wedi'i hindentio yn rhedeg yn hydredol ar hyd pob wyneb, yn gorwedd 10 milimetr oddi wrth y llinell gyfatebol, neu heb eu marcio, ac sydd yn y naill achos a'r llall yn pwyso 80 gram ar gyfartaledd; a

(d)     nad yw’r sylffwr sydd ynddynt yn fwy na 2% o’r cyfanswm pwysau.

54. Brics glo Therma, a weithgynhyrchir gan Maxibrite Limited yn Llantrisant, Rhondda Cynon Taf—

(a)     sydd wedi'u cyfansoddi o ronynnau glo caled (sef rhyw 84% o’r cyfanswm pwysau), golosg petrolewm (sef rhyw 12% o’r cyfanswm pwysau) a rhwymwr starts (sef gweddill y pwysau);

(b)     a weithgynhyrchwyd o'r cyfansoddion hynny drwy broses rholio-wasgu a thriniaeth wres ar ryw 250°C;

(c)     sy'n frics glo hirgrwn/ar siâp deigryn a chanddynt linell drwy'r canol ac sy'n pwyso 26 gram ar gyfartaledd; a

(d)     nad yw’r sylffwr sydd ynddynt yn fwy na 2% o’r cyfanswm pwysau.

55. Brics glo Thermac, a weithgynhyrchir gan Coal Products Limited yn Immingham Briquetting Works, Immingham, North East Lincolnshire—

(a)     sydd wedi’u cyfansoddi o lo caled (sef rhyw 90% o'r cyfanswm pwysau) a rhwymwr organig sy'n caledu pan fo'n oer (sef gweddill y pwysau);

(b)     a weithgynhyrchwyd o'r cyfansoddion hynny drwy broses sy'n cynnwys rholio-wasgu;

(c)     sy'n frics glo heb eu marcio ar siâp gobennydd, yn pwyso 48 gram ar gyfartaledd; a

(d)     nad yw’r sylffwr sydd ynddynt yn fwy nag 1.5% o’r cyfanswm pwysau.

56. Boncyffion tân Tiger Tim, a weithgynhyrchir gan De Lange BV, Rustenburgerweg 3, 1646 WJ Ursem, Yr Iseldiroedd—

(a)     sydd wedi'u cyfansoddi o gwyr hydrin (sef rhyw 50% o’r cyfanswm pwysau) a blawd llif (sef gweddill y pwysau);

(b)     a weithgynhyrchwyd o'r cyfansoddion hynny drwy broses triniaeth wres ac allwthio;

(c)     sy'n rhyw 280 o filimetrau o hyd a 75 o filimetrau x 75 o filimetrau a chanddynt un rhigol yn rhedeg ar hyd pob un o'u pedwar wyneb sy'n 280 o filimetrau o hyd ac sy'n pwyso 1.1 kilogram ar gyfartaledd; a

(d)     nad yw’r sylffwr sydd ynddynt yn fwy na 0.2% o’r cyfanswm pwysau.

57. Unicite, a weithgynhyrchir gan DJ Davies Fuels Limited yn Blaenau Fuel Depot, Rhydaman, Sir Gaerfyrddin, neu a weithgynhyrchir gan AI Simson yn Cabby Latch, Logie ger Kirriemuir, Angus—

(a)     sy'n gymysgwch o'r gwahanol danwyddau a ganlyn—

                           (i)    nytiau mawr glo caled, a

                         (ii)    briciau tân Union fel a ddisgrifir yn isbaragraff (d) a weithgynhyrchir gan RWE Power AG yn Cologne, Yr Almaen (sef dim mwy nac oddeutu 40 i 42% o gyfanswm pwysau Unicite);

(b)     nad yw’r sylffwr sydd ynddynt yn fwy na 0.5% o’r cyfanswm pwysau;

(c)     y datgenir mai dim ond i'r graddau y mae cyfran y briciau tân Union a losgir wrth ddefnyddio Unicite heb fod uwchlaw yr ystod canranol a bennir yn is-baragraff (a) (ii) y mae'n danwydd awdurdodedig; a

(d)     i'r graddau y mae wedi'i gyfansoddi o'r briciau tân Union y cyfeirir atynt yn is-baragraff (a) (ii), maent yn cynnwys lignit wedi'i gywasgu gyda phob bricsen dân yn mesur oddeutu 75 o filimetrau o led, 60 o filimetrau o uchder a 55 o filimetrau o drwch.

58. Zip 100% Natural Firelogs, a weithgynhyrchir gan Standard Brands (Trading) Ireland Limited yn Castlebellingham, County Louth, Iwerddon—

(a)     sydd wedi’u cyfansoddi o gwyrau triglyserid hydrogenaidd o darddiad naturiol (sef rhyw 53 i 57% o’r cyfanswm pwysau), ffibr helyg (sef rhyw 23 i 27% o’r cyfanswm pwysau) a rhwymwr naturiol wedi ei seilio ar driagl (sef gweddill y pwysau);

(b)     a weithgynhyrchwyd o’r cyfansoddion hynny drwy broses triniaeth wres ac allwthio;

(c)     sy’n rhyw 210 o filimetrau o hyd, 80 o filimetrau o led a 75 o filimetrau o uchder ac sy’n pwyso rhwng 1.085 ac 1.115 cilogram ar gyfartaledd; a

(d)     nad yw’r sylffwr sydd ynddynt yn fwy na 0.2% o’r cyfanswm pwysau.

59. Zip 100% Natural Firelogs, a weithgynhyrchir gan Standard Brands (Trading) Ireland Limited yn Castlebellingham, County Louth, Iwerddon—

(a)     sydd wedi’u cyfansoddi o gwyrau triglyserid hydrogenaidd o darddiad naturiol (sef rhyw 53 i 57% o’r cyfanswm pwysau), ffibr helyg (sef rhyw 23 i 27% o’r cyfanswm pwysau) a rhwymwr naturiol wedi ei seilio ar driagl (sef gweddill y pwysau);

(b)     a weithgynhyrchwyd o’r cyfansoddion hynny drwy broses triniaeth wres ac allwthio;

(c)     sy’n rhyw 245 o filimetrau o hyd, 75 o filimetrau o led a 68 o filimetrau o uchder ac sy’n pwyso rhwng 0.985 ac 1.015 cilogram y boncyff ar gyfartaledd; a

(d)     nad yw’r sylffwr sydd ynddynt yn fwy na 0.2% o’r cyfanswm pwysau.

60. ZIP 100% Natural Stove Log, a weithgynhyrchir gan Standard Brands (Trading) Ireland Limited yn Castlebellingham, County Louth, Iwerddon—

(a)     sydd wedi’u cyfansoddi o gwyrau triglyserid hydrogenaidd o darddiad naturiol (sef rhyw 53 i 57% o’r cyfanswm pwysau), ffibr helyg (sef rhyw 23 i 27% o’r cyfanswm pwysau) a rhwymwr naturiol wedi ei seilio ar driagl (sef gweddill y pwysau);

(b)     a weithgynhyrchwyd o’r cyfansoddion hynny drwy broses triniaeth wres ac allwthio;

(c)     sy’n rhyw 165 o filimetrau o hyd, 80 o filimetrau o led a 75 o filimetrau o uchder ac sy’n pwyso rhwng 0.835 a 0.865 cilogram ar gyfartaledd; a

(d)     nad yw’r sylffwr sydd ynddynt yn fwy na 0.2% o’r cyfanswm pwysau.

61. Boncyffion tân ZIP Cracklelog, boncyffion tân ZIP Crackle-log a boncyffion tân ZIP Crackling Log, a weithgynhyrchir gan Allspan BV, Macroweg 4, 5804 CL Venray, Yr Iseldiroedd—

(a)     sydd wedi’u cyfansoddi o gwyr hydrin (sef rhyw 55% o'r cyfanswm pwysau), blawd llif pren caled (sef rhyw 42% o'r cyfanswm pwysau) a hadau clecian (sef rhyw 3.2% o'r cyfanswm pwysau);

(b)     a weithgynhyrchwyd o'r cyfansoddion hynny drwy broses triniaeth wres ac allwthio;

(c)     sy'n rhyw 235 o filimetrau eu hyd a 80 o filimetrau eu diamedr, gyda rhigolau ar hyd yr wynebau, ac sy'n pwyso 1.1 cilogram ar gyfartaledd; a

(d)     nad yw’r sylffwr sydd ynddynt yn fwy na 0.1% o’r cyfanswm pwysau.

62. ZIP Firelogs, a weithgynhyrchir gan Allspan BV, Macroweg 4, 5804 CL Venray, Yr Iseldiroedd—

(a)     sydd wedi’u cyfansoddi o gwyr hydrin (sef rhyw 58 i 59% o'r cyfanswm pwysau) a blawd llif pren caled (sef gweddill y pwysau);

(b)     a weithgynhyrchwyd o'r cyfansoddion hynny drwy broses triniaeth wres ac allwthio;

(c)     sy'n rhyw 265 o filimetrau eu hyd a 80 o filimetrau eu dyfnder, gyda rhigolau ar hyd yr wynebau, ac sy'n pwyso 1.3 cilogram ar gyfartaledd; a

(d)     nad yw’r sylffwr sydd ynddynt yn fwy na 0.1% o’r cyfanswm pwysau.

63. ZIP Firelogs, a weithgynhyrchir gan Allspan BV, Macroweg 4, 5804 CL Venray, Yr Iseldiroedd—

(a)     sydd wedi’u cyfansoddi o gwyr hydrin (sef rhyw 58 i 59% o'r cyfanswm pwysau) a blawd llif pren caled (sef gweddill y pwysau);

(b)     a weithgynhyrchwyd o'r cyfansoddion hynny drwy broses triniaeth wres ac allwthio;

(c)     sy'n rhyw 235 o filimetrau eu hyd a 80 o filimetrau eu dyfnder, gyda rhigolau ar hyd yr wynebau, ac sy'n pwyso 1.1 cilogram ar gyfartaledd; a

(d)     nad yw’r sylffwr sydd ynddynt yn fwy na 0.1% o’r cyfanswm pwysau.

64. ZIP Firelogs, a weithgynhyrchir gan Woodflame Moerdijk BV, Apolloweg 4, Harbour No: M189A, 4782 SB Moerdijk, Yr Iseldiroedd—

(a)     sydd wedi’u cyfansoddi o gwyr hydrin (sef rhyw 55 i 60% o'r cyfanswm pwysau) a blawd llif pren caled (sef gweddill y pwysau);

(b)     a weithgynhyrchwyd o'r cyfansoddion hynny drwy broses triniaeth wres ac allwthio;

(c)     sy'n rhyw 255 o filimetrau eu hyd a 75 o filimetrau eu diamedr, gyda rhigolau ar hyd un wyneb hydredol, ac sy'n pwyso 1.3 cilogram ar gyfartaledd; a

(d)     nad yw’r sylffwr sydd ynddynt yn fwy na 0.1% o’r cyfanswm pwysau.

 



([1])           1993 p. 11.

([2])           Trosglwyddwyd swyddogaethau perthnasol yr Ysgrifennydd Gwladol, i’r graddau y maent yn arferadwy o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn rhinwedd erthygl 2 o Orchymyn  Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672), ac Atodlen 1 iddo. Mae’r swyddogaethau hynny bellach yn arferadwy gan Weinidogion Cymru yn rhinwedd adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32) a pharagraff 30 o Atodlen 11 iddi.

([3])           O.S. 2008/3100 (Cy. 274).

([4])           O.S. 2009/3225 (Cy. 279).

([5])           O.S. 2011/2909 (Cy. 313).

([6])           O.S. 2013/562 (Cy. 65).